Dewiswch iaith

Cymraeg English
Aerial view of RSPB Ynys-hir nature reserve

Cymru

Mae tirweddau a chynefinoedd godidog Cymru yn llawn bywyd gwyllt. Mae ein gwaith yng Nghymru yn helpu i'w ddiogelu.

Mae tirweddau a chynefinoedd godidog Cymru yn llawn bywyd gwyllt. Mae ein gwaith yng Nghymru yn helpu i'w ddiogelu.

Gwelwch frain coesgoch yn plymio uwchben clogwyni serth, barcutiaid coch yn hedfan dros fryniau garw a morloi llwyd yn segura ar hyd yr arfordir. Clywch huganod swnllyd yn nythu ar Ynys Gwales a galwadau byrlymus y rugiar ddu. 

 

Mae ein gwaith yng Nghymru yn helpu i ddiogelu'r bywyd gwyllt rhyfeddol yma a'r mannau lle maen nhw'n byw.

View of sea cliffs, RSPB Ramsey Island

Helpwch ni i ddiogelu Ynys Dewi

Mae Ynys Dewi yn gartref i niferoedd pwysig o blanhigion, adar ac anifeiliaid eraill. Helpwch ni i gynnal y lle arbennig hwn.

Mannau i ymweld â nhw

I ddarganfod mwy, dewiswch farciwr o’r map neu closiwch i mewn.
    • Y Fawnog, Arthog

      Y Fawnog, Arthog

      Darn o wlyptir bychan yn nyffryn yr afon Mawddach yw’r Fawnog yn Arthog ac mae’n lle gwych i ddod o hyd i blanhigion, blodau, gloÿnnod byw ac adar rhyfeddol.

      Mwy...
    • Carngafallt

      Carngafallt

      Mae Carngafallt yn lle hyfryd i weld adar neu i fwynhau’r olygfa. Mae’r tirlun o rostir yn arbennig o liwgar ar ddiwedd yr haf, a’r gwanwyn yw’r tymor perffaith i weld adar ymfudol fel y tingoch, crec yr eithin neu gorhedydd y coed.

      Mwy...
    • Coed Garth Gell

      Coed Garth Gell

      Saif Coed Garth Gell, gwarchodfa natur gyda choedlannau derw a rhostir, yn nyffryn yr afon Mawddach. Mae’r llwybrau i ymwelwyr yn eich tywys trwy goedlannau derw hardd gydag afon sy’n llifo’n gyflym ar waelod y cwm.

      Mwy...
    • Conwy

      Conwy

      O’r warchodfa hon, a saif ar lannau aber Conwy, ceir golygfeydd gwych o Eryri a Chastell Conwy, yn hyfryd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

      Mwy...
    • Cwm Clydach

      Cwm Clydach

      Dewch am dro drwy ardal o goedlan heddychlon ar ddiwrnod braf o haf. Efallai y gwelwch y gwybedog brith, y tingoch neu’r bwncath, yn ogystal â bronwen y dŵr ar hyd glannau isaf yr afon Clydach.

      Mwy...
    • Ynys Gwales

      Ynys Gwales

      Ynys anghysbell ymhell oddi ar y lan yw Ynys Gwales, sy’n cynnal 39,000 pâr o huganod sy’n nythu. Dyma drydedd nythfa fwyaf y byd o huganod ar yr Atlantig, ac mae’n cynnal oddeutu 10% o boblogaeth y byd.

      Mwy...
    • Ghosts of the forest - black grouse watch

      Ghosts of the forest - black grouse watch

      Set against the stunning moorland backdrop of Coed Llandegla Forest, groups of us black grouse males meet at our display ground – or lek – to show off to the females, so the stakes are high.

      Find out more
    • Gwenffrwd-Dinas

      Gwenffrwd-Dinas

      Dewch i fwynhau taith gerdded trwy goedlan gwern a derw hynafol, heibio i afonydd cyflym a thrawiadol. Saif y warchodfa yng nghanol harddwch canolbarth Cymru.

      Mwy...
    • Llyn Efyrnwy

      Llyn Efyrnwy

      Mae ein canolfan ymwelwyr a’n siop sy’n llawn o nwyddau yn fannau cychwyn delfrydol i’ch ymweliad. Ymunwch â llwybr trwy’r goedlan a chyn bo hir bydd bywyd gwyllt o’ch cwmpas ym mhob man.

      Mwy...
    • Gwlyptiroedd Casnewydd

      Gwlyptiroedd Casnewydd

      Mae’r warchodfa natur hon yn cynnig hafan i fywyd gwyllt ar gwr y ddinas, ond mae’n lle gwych i bobl hefyd, gyda’n canolfan ymwelwyr, caffi, siop a man chwarae i blant.

      Mwy...
    • Y Parlwr Du

      Y Parlwr Du

      Dewch draw yn ystod misoedd y gaeaf ac fe gewch gyfle i weld miloedd o adar yn bwydo. Penllanw yw’r adeg gorau i alw draw, pan fydd y môr yn gorfodi’r adar i symud i’r morfeydd heli, lle gellir eu gweld yn nes fyth.

      Mwy...
    • Ynys Dewi

      Ynys Dewi

      Ar yr ynys drawiadol hon oddi ar lannau Sir Benfro mae clogwyni hyd at 120 metr o uchder – y man perffaith i adar môr nythu yn y gwanwyn a’r haf. Ewch am dro ar hyd y rhostir arfordirol i fwynhau golygfeydd rhyfeddol.

      Mwy...
    • Clogwyni Ynys Lawd

      Clogwyni Ynys Lawd

      Dewch i fwynhau golwg agos o’r nythfa ar y clogwyni, gyda chymorth ysbienddrychau a thelesgopau a ddarperir. Cewch gyfle i wylio gwylogod, llursod a phalod wrth iddyn nhw i gyd fagu eu cywion.

      Mwy...
    • Gwlyptiroedd y Fali

      Gwlyptiroedd y Fali

      Wrth ymweld â’r llynnoedd hyn a amgylchynir gan hesg cewch gyfle i weld adar dwr drwy’r flwyddyn gron. Chwiliwch am hwyaid copog, pengoch, llydanbig, a llwyd yn ogystal â gwyachod sydd i gyd yn nythu yma.

      Mwy...
    • Ynys-hir

      Ynys-hir

      Ar Ynys-hir ceir cymysgedd o goed derw Cymreig, glaswelltir llaith a morfeydd heli. Chwiliwch am adar ysglyfaethus o un o’n saith cuddfan.

      Mwy...

    Cymrwch ran

    Gyda’n gilydd, gallwn roi cartref i fyd natur

    Rydym yn gweithio ledled Cymru ac ar draws gweddill y DU i roi cartref i fyd natur. Ond ni fedrwn wneud hynny heboch chi. A wnewch roi eich cefnogaeth i ni? Mae pob aelod yn cael:

    • Mynediad am ddim i dros 170 o warchodfeydd natur yn y DU
    • Cylchgrawn Nature's Home ac Y Barcud – cylchlythyr RSPB Cymru – bob chwarter
    • Pecyn croeso i'ch helpu i wneud yn fawr o'ch aelodaeth
    • Rhodd rhad ac am ddim o’ch dewis chi.

    Dowch yn aelod o'r RSPB

    Mae eich aelodaeth yn ein helpu i arbed natur a diogelu ardaloedd gwyllt.