Mae’r canlyniadau wedi cyrraedd

Beth wnaethon ni ei ddysgu o arolwg bywyd gwyllt gardd mwyaf y byd yn 2024?

9.7 miliwno adar yn ystod digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024.
610,000+o bobl ran yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024.
12.1 miliwno oriau yn gwylio adar ers 1979.

Archwiliwch ganlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024

Edrychwch ar ein tudalen canlyniadau rhyngweithiol i weld pa adar sydd wedi symud i fyny a pha rai sydd wedi symud i lawr yn siartiau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd. Ydy’r canlyniadau’n adlewyrchu’r hyn rydych chi wedi’i weld yn eich ardal chi? Dewiswch wlad i weld y deg uchaf yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Tabl Arweinwyr y 10 uchaf

Dewiswch flwyddyn i weld sut mae'r canlyniadau wedi newid dros amser, neu cliciwch ar wlad i weld y 10 uchaf yno.

Gwyliwch ganlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024 wrth iddynt gael eu datgelu

Eisteddwch yn ôl a mwynhewch ein ffilm fer lle rydym yn datgelu canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024. Sut mae deg uchaf y DU yn cymharu â’r hyn welsoch chi yn eich sesiwn Gwylio Adar?

Canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024: Pa aderyn ddaeth i’r brig?

Deall adar yr ardd

Mae Gwylio Adar yr Ardd yn rhoi cipolwg o sut mae adar yn ymdopi. Dyma’r arolwg mwyaf yn y byd o fywyd gwyllt mewn gerddi ac, am ei fod yn cael ei gynnal bob blwyddyn, rydyn ni’n gallu edrych ar dueddiadau dros amser. Mae ymchwil fel yr Arolwg Adar Bridio ac arolygon gwyddonol eraill yn ein galluogi i ddeall unrhyw newidiadau yn well.

Mae Adar y To angen ein help ni

Aderyn y To yw un o adar mwyaf cyffredin y DU. Dyma’r aderyn sy’n cael ei weld amlaf yn ystod y sesiynau Gwylio Adar yr Ardd, ond yn anffodus mae’r niferoedd bridio wedi gostwng yn sylweddol ers dechrau cadw cofnodion dros y 50 mlynedd diwethaf. Yn 2002, ychwanegwyd Aderyn y To at Restr Goch y DU o adar y mae pryder mawr ynglŷn â’u cadwraeth. Er bod cynnydd wedi bod mewn rhai ardaloedd dros y degawd diwethaf, mae Aderyn y To yn dal i fod ar y Rhestr Goch. Un ffordd o helpu adar yr ardd yw drwy annog pryfed. Beth am adael i ran o’ch gardd dyfu’n wyllt y gwanwyn a’r haf hwn?

A male and female House Sparrow perched together on a branch.

Troi’r llanw er budd natur

Mae’r problemau sy’n wynebu adar yn niferus ac yn amrywiol, sy’n golygu bod angen i ni gymryd camau ym mhob math o feysydd. O arddio i fywyd gwyllt i’r ffordd rydyn ni’n ffermio ac yn rheoli ein hafonydd, mae’r cyfan yn effeithio ar fyd natur. Dyna pam rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i achub, diogelu a brwydro dros natur. A phan fyddwn ni’n dod at ein gilydd dros fyd natur, mae’n gweithio. 

Llwyddwyd i achub yr adar a oedd bron â chael eu colli yn y DU. 

Mae’r ffordd mae ein haelodau'n helpu yn gwneud gwahaniaeth

Diolch i ymdrechion cadwraeth ymroddedig, mae’r Barcud Coch yn hedfan yn uchel yn yr awyr unwaith eto ac mae llais y Bwn yn adleisio eto yn ein gwlyptiroedd. Ni fyddai hyn yn bosibl heb gefnogaeth ein haelodau, gwirfoddolwyr a llawer o bobl eraill – diolch yn fawr!

Local Group members enjoying a wildlife walk

Dod yn aelod

Mae Gwylio Adar yr Ardd yn dangos pŵer pobl yn dod at ei gilydd i weithredu dros fyd natur. Byddem wrth ein bodd petaech chi’n dod yn aelod. 

  • Mynediad at 170 a mwy o warchodfeydd natur yn y DU
  • Cylchgronau rheolaidd yr RSPB, sy’n llawn newyddion, erthyglau ac awgrymiadau 
  • Pecyn croeso i'ch helpu i wneud y mwyaf o'ch aelodaeth
A Blue Whale skeleton suspended from the ceiling of the Hintze Hall at the Natural History Museum, London.
© Trustees of the Natural History Museum 2024

Gweld Adar: Y Gwych a’r Rhyfedd yn yr Amgueddfa Hanes Natur

Gostyngiad o 20% oddi ar docynnau gydag aelodaeth RSPB. Rydym wedi partneru gyda’r Amgueddfa Hanes Natur ar arddangosfa newydd na ellir ei cholli, sy’n dangos sut mae adar wedi defnyddio technegau gwych a ddiddorol i ffynnu am fwy na 150 miliwn o flynyddoedd.

  • Ar agor rhwng 24 Mai 2024 a 5 Ionawr 2025 yn yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain.
  • Mae aelodau'r RSPB yn cael gostyngiad o 20% oddi ar docynnau.

Mwynhewch wylio adar drwy gydol y flwyddyn mewn gwarchodfa natur yr RSPB

Os ydych chi wedi mwynhau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd eleni, ewch i un o’n hafanau natur, sydd wedi ymrwymo i ofalu am adar a bywyd gwyllt arall. Mae dros 170 ledled y DU, gyda llawer yn cynnal teithiau cerdded tywysedig a digwyddiadau i’ch helpu i ddysgu mwy am adar.

or see all our locations
An overview of the café at Old Moor Reserve, wooden tables with white and grey plastic chairs.
Old Moor Cafe

Dearne Valley – Old Moor

Barnsley and Rotherham

Head to the trails to explore lands, skies and open water that teem with life. Pop into the hides for fantastic views, and let little ones get stuck in at our family activity zones. 

Reserve of the month